Skip to content

Willa & Hesper – Amy Feltman

£12.99

Yn Willa & Hesper, mae dwy fenyw ifanc yn cwympo mewn cariad. Pan maen nhw’n cwympo allan, maent yn ddiarwybod yn dilyn yr un llwybr i iacháu o’u toriad, gan chwilio am atebion yng ngwlad eu theuluoedd. O Tbilisi, Georgia i safleoedd rhyfel yr Almaen, maen nhw’n darganfod beth all dorri a beth all ei drwsio wrth edrych i’r gorffennol i ddeall y presennol.

Mae tywyllwch Willa yn cyffwrdd â golau Hesper yn hwyr un noson yn Brooklyn. Mae’n rhamant corwynt nes bod Willa yn dechrau nabod Hesper yn rhy dda a mae Hesper yn ei chau allan. Mae hi’n rhedeg, yn dilyn ei theulu toredig yn ôl i dref enedigol ei thad-cu, Tbilisi, yn chwilio am y stori wreiddiol nad yw bellach yn gallu ei hadrodd. Ond unwaith yn Tbilisi, mae craciau yn ymddangos yn yr hanes – ac mae llifogydd enfawr yn mynd i gyfeiriad Georgia, gan fygwth unrhyw obaith am atgyweirio.

Yn y cyfamser, mae Willa torcalonnus yn ysu am adael Efrog Newydd felly yn ymuno â thaith grŵp ar gyfer Iddewon ifanc i ymweld â safleoedd yr Holocost yn yr Almaen a Gwlad Pwyl, gan obeithio diystyru ei chyflwr emosiynol. Pan mae’n profi’n fwy brawychus na chartref, rhaid iddi ddod i delerau â’i gorffennol -gorfennol ei theulu, ei gorffennol rhamantus a’r gorffennol a all ei harwain ymlaen.

Wedi’i hadrodd o safbwyntiau’r ddwy ac yn gorffen yng nghysgod llywyddiaeth Trump, mae WILLA & HESPER yn ymddangosiad cyntaf teimladwy, ymenyddol ac amserol.


In WILLA & HESPER, two young women fall in love. When they fall apart, they unwittingly take the same path to heal from their breakup, seeking answers in the lands of their ancestors. From Tbilisi, Georgia to the war sites of Germany, they discover what can break and what can mend when you look to the past to understand your present.

Willa’s darkness enters Hesper’s light late one night in Brooklyn. Theirs is a whirlwind romance until Willa starts to know Hesper too well, to crawl into her hidden spaces and Hesper shuts her out. She runs, following her fractured family back to her grandfather’s hometown of Tbilisi, Georgia, looking for the origin story that he is no longer able to tell. But once in Tbilisi, cracks appear in her grandfather’s history-and a massive flood is heading toward Georgia, threatening any hope for repair.

Meanwhile, heartbroken Willa is desperate to leave New York that she joins a group trip for Jewish twenty-somethings to visit Holocaust sites in Germany and Poland, hoping to override her emotional state. When it proves to be more fraught than home, she must come to terms with her past-the ancestral past, her romantic past and the past that can lead her forward.

Told from alternating perspectives and ending in the shadow of Trump’s presidency, WILLA & HESPER is a deeply moving, cerebral and timely debut.

Add to CompareAdded

Newsletter Sign-Up

Input your email address below to sign-up to our monthly newsletter, which features discount codes, news and attempted whimsy.